Menu 

Gwasanaethau Boddhad Preswylwyr (safon STAR) – Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data

Amcanion yr Arolwg

  1. Ymchwilio i fodlonrwydd preswylwyr gyda’u cartref a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan eu landlord
  2. Ymchwilio i ba faterion sydd fwyaf pwysig i breswylwyr
  3. Mesur lefelau bodlonrwydd yn erbyn pwysigrwydd materion
  4. Nodi unrhyw faterion newydd nad yw’r landlord o bosibl yn ymwybodol ohonynt
  5. Rhoi adborth ynglyn â chanlyniadau’r arolwg fel y gall y landlord wella’r gwasanaethau y mae’n eu darparu
  6. Rhoi adborth i breswylwyr

Datganiad Preifatrwydd

Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn gysylltiedig â’r arolwg ar-lein a’r data a gasglwyd.

  • Mae’r tudalennau’n ein helpu i wneud ymchwil i’r dibenion a amlinellwyd uchod
  • Bydd manylion unigolion a’u hatebion yn cael eu trin yn gyfrinachol dan bob amgylchiadau ac fe’u defnyddir yn unig at bwrpas ymchwil oni bai eich bod yn gofyn neu’n rhoi caniatâd i’w datgelu i drydydd parti
  • Ni fyddwn yn eich camarwain
  • Mae cydweithrediad yn wirfoddol bob amser. Ni fyddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol gennych nac amdanoch, heb roi gwybod i chi ymlaen llaw a sicrhau eich bod yn cytuno
  • Tynnu’n ôl – gallwch wrthod ateb cwestiynau penodol unrhyw bryd. Gallwch hefyd ofyn i ni ddinistrio neu ddileu rhan o’ch cofnod, neu’r holl gofnod o’ch atebion. Byddwn yn cydsynio â chais o’r fath os yw’n rhesymol ac yn ymarferol.
  • Cwcis – Nid yw o fewn ein polisi i anfon cwcis
  • Post heb ganiatâd – ni fyddwn yn anfon post heb ganiatâd nac yn trosglwyddo eich cyfeiriad e-bost i eraill i’r pwrpas hwn. Os byddwn eisiau anfon ebost atoch yn y dyfodol, byddwn yn gofyn eich caniatâd penodol i wneud hynny
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill cysylltwch â Chartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG)
  • Mae croeso i chi wirio ein manylion trwy gysylltu â’ch landlord

Deddf Diogelu Data

Caiff eich data personol ei ddiogelu yn y DU gan y Ddeddf Diogelu Data. Ymysg pethau eraill mae hyn yn sicrhau y dylai’r data sydd gennym amdanoch gael ei brosesu’n gyfreithlon a theg. Dylai fod yn gywir, yn berthnasol a ddim yn ormodol. Lle bo angen, dylai’r wybodaeth fod yn gyfredol ac ni ddylid ei gadw am gyfnod hirach nag sydd angen. Dylid ei gadw’n ddiogel i atal mynediad heb ei awdurdodi gan bobl eraill. Mae hawl gennych i weld yr wybodaeth a gedwir amdanoch a chywiro unrhyw wallau.